Pandemig ffliw 2009

Teithwyr yn gwisgo mygydau ar drên yn Ninas Mecsico
Graff o Ebrill hyd at Gorffennaf 2009. Ffynhonnell: Cyfundrefn Iechyd y Byd.

Brid newydd o feirws y ffliw yw tarddiant y ffliw H1N1 2009 (Sa: 2009 swine flu outbreak) a ddechreuodd ym mis Ebrill 2009 ym Mecsico. Cyfeirir ato hefyd fel pandemig ffliw 2009 a ffliw moch. Erbyn yr 28ain o Ebrill, roedd y feirws wedi heintio pobl yn Ninas Mecsico, yr Unol Daleithiau, Sbaen, Canada, Israel a'r Alban. Ym Mehefin codwyd y lefel rhybudd i "Lefel Pandemig" gan Gyfundrefn Iechyd y Byd (CIB). Mae hi'n fwy na thebyg mai mewn moch yr esblygodd y math hwn o feirws a hynny yng nghyfandir America.[1]

Erbyn 17 Gorffennaf roedd 263 o bobl wedi marw o'r afiechyd yn yr Unol Daleithiau a thros 1,000 wedi eu heintio. Ledled y byd yn ôl WHO[2] roedd dros 700 o bobl wedi marw o H1N1 2009. Dywedodd Keiji Fukuda, llefarydd ar ran WHO ar 24 Gorffennaf 2009 fod yr haint wedi ymledu i 160 o wledydd ac y gall heintio dau biliwn (2,000,000,000) o bobl yn ystod y ddwy flynedd nesaf.[3]

Erbyn diwedd Gorffennaf roedd 65% o holl achosion o'r haint drwy Ewrop yng ngwledydd Prydain[4], sef 23 marwolaeth a dywedwyd bod 55,000 o bobl yn cael eu heintio yn wythnosol.[5]

Nodweddir yr achosion hyn gan symptomau ffliw difrifol, yna niwmonia, sydd wedi bod yn farwol mewn rhai achosion ym Mecsico. Daw rhan o'r brid newydd o'r firws A'r ffliw dynol (is-fath H1N1), ac yn rhannol o wahanol fridau o'r ffliw a welir mewn moch yn unig. Ym mis Ebrill, mynegodd Cyfundrefn Iechyd y Byd a Chanolfan Rheolaeth Afiechydon yr Unol Daleithiau bryderon mawr am y math hwn, am ei fod yn medru cael ei drosglwyddo o berson i berson, a'r ffaith fod ganddo gyfradd marwolaeth gymharol uchel ym Mecsico, a'r potensial i ddod yn bandemig enbyd.

Ar y 24ain o Ebrill, 2009, caewyd a gohiriwyd pob ysgol, prifysgol a digwyddiad cyhoeddus ym Mecsico,[6] tra bod ysgolion eraill yn Unol Daleithiau America wedi'u cau pan gadarnhawyd y firws ymhlith eu myfyrwyr.[7]. Cyhoeddwyd y byddai ysgolion ym Mecsico yn aros ynghau tan y 6ed o Fai, 2009.[8] Ar y 25ain o Ebrill, 2009, nododd Cymdeithas Iechyd y Byd yn ffurfiol fod y sefyllfa yn "argyfwng iechyd cyhoeddus ar lefel ryngwladol", gyda phrinder gwybodaeth o ran "nodweddion clinigol, epidemiolegol, a firol yr achosion a wyddir amdanynt a'r ymateb priodol".[9] Mae asiantaethau iechyd llywodraethol byd-eang wedi mynegi pryder am y tarddiad ac yn monitro'r sefyllfa'n ofalus.

  1. "Swine Flu Might Have Come From Asia" New York Times, Mehefin 23, 2009
  2. Gwefan y BBC
  3. Gwefan y BBC
  4. Gwefan y BBC
  5. [*http://www.direct.gov.uk/pandemicflu Gwefan ITN
  6. "Mexican Schools Shut as Epidemic Hits 'Critical' Point". The Washington Post. 2009-04-27. Adalwyd ar 2009-04-28
  7. "Schertz-Cibolo-Universal City ISD". Scuc.txed.net. 2009-02-23. . Adalwyd ar 2009-04-27
  8. "Swine Flu Extends Reach, Sickens Hundreds in New York (Update1)". bloomberg.com. Adalwyd ar 2009-04-28.
  9. "Datganiad gan Reolwr Cyffredinol Cyfundrefn Iechyd y Byd Dr Margaret Chan 25 Ebrill 2009 — Swine influenza".[dolen marw] Cymdeithas Iechyd y Byd. 2009-04-25. Adalwyd ar 2009-04-26.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search